Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Chwefror 2018
Amser:
10.30 -
13.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4602
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Ray Williams, Holyhead & Anglesey Weightlifting and Fitness Centre Chris Gittins, Llywodraeth Cymru Beverley Morgan, Llywodraeth Cymru Bethan Roberts, Llywodraeth Cymru Janine Hale, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Dirprwy Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ray Williams.
3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â chychwyn Rhan 5 o'r Ddeddf.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod ar 14 Chwefror (er mwyn ystyried yr adroddiad drafft ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a thrafod y flaenraglen waith).
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitem 2 y cyfarfod.
6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) gan Chris Gittins, Pennaeth Datblygu Camddefnyddio Sylweddau, Beverley Morgan, Rheolwr y Bil, Bethan Roberts, Adran y Gwasanaethau Cyfreithiol, a Janine Hale, Prif Swyddog Ymchwil.
7.1 Cafodd y Pwyllgor sgwrs ar y we gyda phlant a phobl ifanc i siarad am eu lefelau gweithgarwch ac unrhyw rwystrau y maent yn eu hwynebu rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch.
7.2 Cymerodd cynrychiolwyr o Ysgol Uwchradd Ebbw Fawr, Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Prosiect Delwedd Iach, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Coleg Caerdydd a'r Fro, a Fforwm Ieuenctid y Fro ran yn y sgwrs ar y we.